Mae'r Cenhedloedd Unedig (CU) wedi rhyddhau adroddiad sy'n dangos y gall gwella seilwaith trefol dinasoedd gynnal twf economaidd wrth ddefnyddio llai o adnoddau naturiol.
Roedd yr adroddiad 'City-Level Decoup-ling: Urban Resource Flows and the Governance of Infrastructure Transitions' yn cynnwys deg ar hugain o achosion yn dangos manteision mynd yn wyrdd. Lluniwyd yr adroddiad yn ystod 2011 gan y Panel Adnoddau Rhyngwladol (IRP), a gynhelir gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP).
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy a thechnolegau sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon mewn dinasoedd yn cynnig cyfle i sicrhau twf economaidd, gyda chyfraddau is o ddiraddio amgylcheddol, lleihau tlodi, allyriadau nwyon tŷ gwydr is a llesiant gwell.